Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 20 Ionawr 2022
  • Newyddion

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi llythyr sy’n crynhoi canfyddiadau ein gweithgarwch monitro ym mis Tachwedd 2021 a gynhaliwyd yng Ngwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Bro Morgannwg.

Bwriad y gweithgarwch monitro yw rhoi sicrwydd bod Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Bro Morgannwg yn parhau ar daith gadarnhaol o welliant.

Ym mis Tachwedd, gwnaethom fonitro Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Bro Morgannwg i wneud gwaith dilynol ar ganfyddiadau ein harolygiad ym mis Mawrth 2021.

O’r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr adolygiadau hyn, ein barn ni yw bod Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Bro Morgannwg yn parhau i wneud gwelliannau.

Roedd ein ffocws ar ddiogelwch a llesiant plant a theuluoedd. Gwnaethom ganolbwyntio'n benodol ar welliannau, profiad plant a phobl ifanc, ac a oedd dyletswyddau a chyfrifoldebau statudol, gan gynnwys disgwyliadau o ran ymarfer, wedi cael eu bodloni.

Rydym wedi tynnu sylw'r awdurdod lleol at ein canfyddiadau.  Byddwn yn monitro cynnydd drwy weithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyr llawn isod.