Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Llythyr gweithgarwch monitro awdurdod lleol: Cyngor Bro Morgannwg

Mae’r llythyr hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harchwiliad sicrwydd dilynol a gynhaliwyd yng Ngwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Bro Morgannwg rhwng 23 a 25 Tachwedd 2021.

Cynhaliodd AGC waith monitro yng Ngwasanaethau Plant a Phobl Ifanc Cyngor Bro Morgannwg, yn dilyn canfyddiadau ein harolygiad ym mis Mawrth 2021.  Roeddem o'r farn bod y gwasanaethau wedi symud ymlaen ar eu taith wella i helpu a chynorthwyo plant a theuluoedd.

Roedd ein ffocws ar ddiogelwch a llesiant plant a theuluoedd.  Gwnaethom ganolbwyntio'n benodol ar welliannau, profiad plant a phobl ifanc, ac a oedd dyletswyddau a chyfrifoldebau statudol, gan gynnwys disgwyliadau o ran ymarfer, wedi cael eu bodloni.

Gwnaethom hefyd ystyried a oedd digon o wybodaeth wedi cael ei chofnodi ar ffeiliau achosion i gefnogi penderfyniadau amserol, priodol a chymesurol.  Gwnaethom geisio sicrwydd i gadarnhau bod Swyddogion Adolygu Annibynnol yn hyrwyddo llais plant a phobl ifanc yn gyson ac yn monitro pa mor dda yr oedd cynlluniau'n cael eu cyflawni i fodloni canlyniadau llesiant.

Roedd ein holl linellau ymholi allweddol wedi'u fframio o fewn pedair egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Crynodeb o'r canfyddiadau:

Pobl – llais a dewis

Mae'r awdurdod lleol wedi ymateb yn rhagweithiol i'r meysydd i'w gwella a nodwyd gan AGC yn yr archwiliad sicrwydd ym mis Mawrth 2021.

Roedd cynllun gweithredu wedi'i ddatblygu a oedd yn nodi manylion y gwelliannau gofynnol a'r amserlenni ar gyfer cyflawni.

Llesiant

Mae data a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol yn cadarnhau bod angen gwneud gwelliannau sylweddol i sicrhau bod asesiadau ac adolygiadau'n cael eu gwneud o fewn amserlenni statudol.

Roedd yr awdurdod lleol yn cymryd camau gweithredu i gryfhau ei ddata perfformiad a'i systemau sicrhau ansawdd.

Atal

Gwelsom dystiolaeth o ddarparu gwasanaethau atal ac ymyrryd yn fuan i helpu wrth gefnogi rhai plant a theuluoedd.

Cawsom ein sicrhau bod cyfnewid gwybodaeth a chyfathrebu rhwng cymorth cynnar a gwasanaethau statudol yn effeithiol ar lefelau strategol a gweithredol.

Partneriaethau ac integreiddio

Mae effaith y pandemig wedi creu tarfiad ond mae byrddau diogelu a phartneriaeth rhanbarthol bellach wedi ailddechrau ac mae cyfarfodydd gweithredol ar y cyd rhwng rheolwyr wedi dechrau ail-flaenoriaethu gwasanaethau plant.

Mae tystiolaeth a welwyd mewn ffeiliau achos yn cefnogi gwaith partneriaeth adeiladol yng nghyd-destun diogelu.

Y camau nesaf

Rydym wedi tynnu sylw'r awdurdod lleol at ein canfyddiadau. Byddwn yn monitro cynnydd drwy weithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyr llawn isod.