Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 23 Mai 2022
  • Newyddion

Rydym yn gohirio’r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth tan 2023

Mae'r penderfyniad hwn wedi'i wneud i gefnogi gwasanaethau ar yr adeg anodd hon.

Rydym yn bwriadu agor y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth i'w gwblhau ar yr un pryd yn y blynyddoedd i ddod - Ionawr yn rhedeg i fis Chwefror. Bydd cadw at amserlen gyson ar gyfer y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn ein galluogi i'w ddatblygu ymhellach i gynnwys mwy o gwestiynau tebyg i 'gyfrifiad' a data adolygu o'r flwyddyn galendr flaenorol.

Yn ogystal, rydym yn bwriadu cryfhau'r elfen 'hunanasesu' yn y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth fel ei fod yn gwneud mwy i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau.

Os oes gennych unrhyw broblemau gydag amseriad ceisiadau yn y dyfodol i gyflwyno'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth neu ymholiadau pellach, anfonwch e-bost atom agc@llyw.cymru.