Arolygiadau ar y cyd gan AGC ac Estyn ar gyfer lleoliadau nas cynhelir
Diweddariad gan yr arolygiaethau yn dilyn ein penderfyniad i ailddechrau arolygiadau ym mis Ionawr 2022.
Yn dilyn ein diweddariad ynghylch ailddechrau ein harolygiadau ar y cyd ym mis Ionawr, byddwn yn parhau i fod yn sensitif i brofiadau lleoliadau o'r pandemig yn ystod arolygiadau. Ni fyddwn yn cyhoeddi barnau cyffredinol ar themâu arolygu unigol yn ystod tymor yr hydref 2022 a byddwn yn adolygu hyn yn gyson.
Bydd Estyn yn rhoi eu gweithdrefnau gweithgarwch dilynol ar waith a bydd AGC yn rhoi ein polisi sicrhau gwelliant a gorfodi ar waith yn ôl yr angen.