Mae adroddiad gwerthuso Gwasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i gyhoeddi
Cynhaliwyd yr arolygiad rhwng 23 Mai a 27 Mai 2022.
Diben yr arolygiad oedd adolygu Gwasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac ystyried a aethpwyd i’r afael â’r meysydd i’w gwella a amlygwyd yn ein gwiriad sicrwydd ym mis Ebrill 2021.
Canfuom fod rhai gwelliannau wedi’u gwneud ers mis Ebrill 2021. Fodd bynnag, mae gennym bryderon difrifol o hyd am y ddarpariaeth o wasanaethau plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r awdurdod lleol wedi derbyn canfyddiadau’r adroddiad hwn ac wedi ein sicrhau ei fod yn blaenoriaethu’r gwaith y mae ei angen i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd gan yr arolygiad hwn.
Dywedodd Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru:
Mae’n bleser gennyf gydnabod y bu rhywfaint o welliant ers ein gwiriad sicrwydd ym mis Ebrill 2021. Fodd bynnag, mae’n rhaid cymryd camau brys pellach i sicrhau a chynnal gwelliant yn y gofal a chymorth i blant a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’n rhaid blaenoriaethu’r gwaith hwn er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i blant. Byddwn yn parhau i gysylltu ag uwch-arweinwyr yr awdurdod lleol ac rydym yn monitro perfformiad yr awdurdod lleol yn agos.
Mae’r adroddiad llawn i’w weld islaw.