Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adroddiad arolygiad gwerthuso perfformiad: Gwasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiad o wasanaethau plant Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 23 Mai a 27 Mai 2022.

Cynhaliwyd yr arolygiad hwn er mwyn inni adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth arfer ei ddyletswyddau a’i swyddogaethau parthed gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.

Bu’r arolygiad hefyd yn ystyried gwelliannau a wnaed yn dilyn ein gwiriad sicrwydd ym mis Ebrill 2021.

Y camau nesaf

Mae’n rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gymryd y camau gofynnol mewn perthynas â’r meysydd a nodwyd ar gyfer gwella/datblygu. Byddwn yn monitro cynnydd a chyflymder y gwelliant yn agos drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus.