Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 9 Awst 2022
  • Newyddion

Mae ein hadolygiad o Cafcass Cymru wedi’i gyhoeddi

Darllenwch ein canfyddiadau ac argymhellion ar gyfer y gwasanaeth llys teulu sy'n sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed mewn llysoedd ledled Cymru.

Diben ein gwiriad sicrwydd oedd adolygu ansawdd ac effeithiolrwydd prif swyddogaethau Cafcass Cymru o ddarparu cyngor arbenigol i lysoedd a diogelu a chefnogi plant a theuluoedd. Gwnaethom ganolbwyntio ar adolygu ceisiadau cyfraith teulu gyhoeddus.

Yn ystod mis Mai 2022, gwnaethom holi pobl ifanc a gofalwyr am eu profiad gyda Cafcass. Llywiodd hyn ein gwaith, a gwnaethom gynnal ein harolygiad rhwng 13 a 17 Mehefin 2022.

Er bod staff yn wynebu pwysau sylweddol a chynyddol, canfuom eu bod yn darparu gwaith o safon dda yn gyson. Ni welsom unrhyw feysydd sy'n peri pryder difrifol.

Mae’r adroddiad llawn, gan gynnwys ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, i’w weld isod.

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl y bydd Cafcass Cymru yn ystyried y meysydd a nodwyd ar gyfer gwella a chymryd camau priodol. Byddwn yn monitro’r cynnydd drwy ein gweithgarwch ymgysylltu parhaus â Cafcass Cymru.