Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 21 Medi 2022
  • Newyddion

Mae gan ddarparwyr gwasanaethau i oedolion a phlant chwe wythnos ar ôl i gyflwyno’u datganiadau blynyddol

Y dyddiad cau ar gyfer eu cyflwyno yw 31 Hydref 2022.

Mae'r datganiadau blynyddol bellach ar gael i unigolion cyfrifol ar gyfer gwasanaethau i oedolion a phlant eu cwblhau drwy ddefnyddio’u cyfrif AGC Ar-lein.

Bydd yn ofynnol i ddarparwyr gyflwyno datganiadau blynyddol byr ar gyfer pob un o'r cyfnodau canlynol: 2018-19, 2019-20, 2020-21, a 2021-22, gan ddibynnu ar y flwyddyn gofrestru.

Gwnaethom ysgrifennu at y darparwyr ynghylch hyn ym mis Gorffennaf 2021 a mis Chwefror eleni.

Er mwyn helpu i leddfu’r baich ar ddarparwr, rydym wedi gwneud y broses hon mor syml â phosibl drwy ddefnyddio AGC Ar-lein a rhag-boblogi llawer iawn o’r wybodaeth ofynnol.

Gwnaethom hefyd estyn y cyfnod cyflwyno i 31 Hydref 2022 er mwyn rhoi mwy o amser i ddarparwyr gwblhau a chyflwyno'r datganiadau blynyddol i ni.

Pwy all gyflwyno'r datganiad blynyddol?

Dim ond yr unigolyn/unigolion cyfrifol neu swyddog(ion) y sefydliad sy'n gysylltiedig â'r darparwr all gael mynediad at y datganiad blynyddol, ei gwblhau a'i gyflwyno.

Ni all cynorthwywyr ar-lein gwblhau na chyflwyno'r datganiad blynyddol.

Os ydych yn unigolyn cyfrifol neu'n swyddog sefydliad a heb actifadu eich cyfrif ar-lein, ffoniwch ni ar 0300 7900 126.

Beth sy'n digwydd i'r datganiad blynyddol ar ôl iddo gael ei gyflwyno?

Bydd pob datganiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan maes o law.

Cymorth ac arweiniad

Mae fideo byr, sy'n dangos i chi sut i gyflwyno eich datganiad blynyddol, ynghyd â chanllawiau ysgrifenedig i'ch cefnogi, ar dudalen Cyflwyno Datganiadau Blynyddol ein gwefan.

Cwestiynau?

Anfonwch neges e-bost at agc@llyw.cymru