Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Datganiad blynyddol

Os ydych yn gweithredu gwasanaeth gofal rheoleiddiedig yng Nghymru, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi gwblhau datganiad blynyddol a'i gyflwyno bob blwyddyn. O 2026, rhaid i chi hefyd gyhoeddi eich datganiad blynyddol ar eich gwefan eich hun.

Ynglŷn â'r datganiad blynyddol

Ffurflen ar-lein y mae'n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau oedolion a phlant cofrestredig ei chwblhau bob blwyddyn drwy eu cyfrif AGC Ar-lein yw'r datganiad blynyddol. Mae'n casglu gwybodaeth am eich gwasanaeth, gan gynnwys staffio, nifer y lleoedd, a sut rydych yn darparu gofal. Mae'r wybodaeth hon yn helpu AGC i gynllunio arolygiadau, yn cefnogi tryloywder i'r cyhoedd, ac yn cyfrannu at ddata cenedlaethol ar wasanaethau gofal yng Nghymru. Bydd y cyfnod i ddychwelyd datganiadau blynyddol yn agor ar 1 Ebrill bob blwyddyn.

Beth sy'n newydd ar gyfer 2026

Mae dau newid pwysig i'r datganiad blynyddol eleni. 

  1. Am y tro cyntaf, rhaid i chi gyhoeddi'r datganiad blynyddol a gyflwynwyd gennych ar eich gwefan eich hun erbyn 30 Mehefin 2026. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol newydd o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025. Ni fydd AGC yn cyhoeddi datganiadau blynyddol ar eich rhan mwyach. Os nad oes gennych wefan ar hyn o bryd, bydd angen i chi greu un cyn y terfyn amser hwn. 
  2. O 2026, mae AGC a Gofal Cymdeithasol Cymru yn cyfuno eu prosesau casglu data. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cwblhau un datganiad yn lle dwy broses casglu data ar wahân bob blwyddyn. Bydd y data ar eich gweithlu yn cael eu rhannu'n awtomatig â Gofal Cymdeithasol Cymru pan fyddwch yn eu cyflwyno. 

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud

  1. Cwblhewch eich datganiad blynyddol a'i gyflwyno drwy eich cyfrif AGC Ar-lein erbyn 26 Mai 2026.
  2. Lawrlwythwch y ‘copi i'w gyhoeddi’ o'ch datganiad blynyddol o'ch cyfrif AGC Ar-lein.

Noder: byddwch yn cael copi trafodiad o'ch datganiad blynyddol yn union ar ôl i chi ei gyflwyno, ond at ddiben eich cofnodion yn unig y mae'r copi hwn ac ni ddylech ei gyhoeddi ar eich gwefan.

  1. Rhaid i chi gyhoeddi eich datganiad blynyddol ar eich gwefan eich hun erbyn 30 Mehefin 2026.

Pwy sydd angen cwblhau datganiad blynyddol

Rhaid i chi gwblhau datganiad blynyddol os ydych yn gweithredu un o'r canlynol: 

  • Gwasanaethau cartrefi gofal
  • Gwasanaethau cymorth cartref
  • Gwasanaethau llety diogel
  • Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
  • Gwasanaethau maethu rheoleiddiedig
  • Gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig
  • Gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig
  • Gwasanaethau lleoli oedolion
  • Gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig

Nid oes angen i'r canlynol gwblhau datganiad blynyddol: 

  • Gwasanaethau maethu awdurdodau lleol
  • Gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol
  • Colegau addysg bellach
  • Ysgolion preswyl

Canllawiau a chymorth 

Er mwyn eich helpu i gyflwyno eich datganiad blynyddol a'i gyhoeddi, rydym wedi paratoi dau adnodd.

Mae ein Datganiad blynyddol 2026: canllawiau i ddarparwyr ar y datganiad blynyddol yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r broses, gan gynnwys beth yw'r datganiad blynyddol, pwy sydd angen ei gwblhau, a beth mae'r gofyniad newydd o ran cyhoeddi yn ei olygu i'ch gwasanaeth. Os yw'r datganiad blynyddol yn rhywbeth newydd i chi neu os hoffech ddeall y newidiadau ar gyfer 2026, dechreuwch yma. 

Mae ein Datganiad blynyddol 2026: cwestiynau cyffredin yn ymdrin â'r rhan fwyaf o ymholiadau cyffredin am y broses gyflwyno, y gofyniad newydd o ran cyhoeddi, y daenlen am y gweithlu, a beth i'w wneud os nad oes gennych wefan. 

Mae'r ddau adnodd ar gael yn y dolenni isod. 

Bydd canllaw cam wrth gam ynglŷn â sut i lawrlwytho eich datganiad blynyddol ar gael o ddechrau mis Mai 2026, unwaith y bydd y ‘copi i'w gyhoeddi’ o'ch datganiad ar gael i'w lawrlwytho.

Cysylltwch â ni

Os bydd gennych gwestiwn nad yw'n cael ei ateb yma nac yn y dogfennau ategol, rydym yn fwy na pharod i'ch helpu. Cysylltwch â ni: