Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 14 Tachwedd 2022
  • Newyddion

Mae hi'n Wythnos Genedlaethol Diogelu (14-18 Tachwedd 2022)

Nod yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth o ddiogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg.

Mae diogelu yn fusnes i bawb ac mae gan bawb rôl i'w chwarae.

Mae'n rhywbeth rydym ni fel arolygiaeth yn ei gymryd o ddifrif ac sy'n llywio ein gwaith.

Beth yw rôl AGC wrth ddiogelu?

Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol sy'n arwain y broses ddiogelu, ac os cawn wybod am bryderon byddwn yn cyfeirio at ddiogelu fel y bo'n briodol.

Cyd-arolygiad o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA)

Ynghyd ag Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Estyn, byddwn yn ailgydio yn rhaglen adolygiad ar y cyd JICPA drwy 2023–24.

Bydd hyn yn adolygiad o'r system diogelu plant gyfan ym mhob ardal bwrdd diogelu rhanbarthol, a fydd yn gwerthuso ansawdd ymarfer, y broses benderfynu a threfniadau amlasiantaethol. Byddwn yn canolbwyntio ar ddiogelu plant 11 oed neu'n iau sy'n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Mae hyn yn adeiladu ar yr arolygiad peilot blaenorol a gynhaliwyd ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ym mis Mehefin 2021 ac yng Nghyngor Dinas Casnewydd ym mis Rhagfyr 2019.

Pryderon

Mae pryderon yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth sy'n ein galluogi i lywio ein prosesau arolygu a gorfodi.

Os bydd gennych bryderon uniongyrchol am ddiogelwch a llesiant rhywun dylech roi gwybod i'ch awdurdod lleol.

Fodd bynnag, os bydd gennych bryderon am ansawdd gwasanaeth gofal yng Nghymru, cysylltwch â ni drwy ffonio 0300 7900 126, anfon e-bost at agc@llyw.cymru neu cyflwynwch eich pryder drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Adborth

Nid pryderon am wasanaeth gwael neu anaddas yn unig rydym yn ei annog – rydym yn croesawu pob math o adborth, yn dda neu'n ddrwg. Efallai eich bod yn gweithio mewn gwasanaeth gofal ac yn dymuno rhannu enghraifft o arfer da mewn perthynas â diogelu? Efallai bod aelod o'r teulu yn byw mewn cartref gofal, neu fod eich plentyn wedi mynychu gwasanaeth gofal plant neu chwarae, ac wedi cael gofal rhagorol. Rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio ein ffurflenni adborth.

Gweithdrefnau Diogelu Cymru a Safonau Hyfforddiant Diogelu

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru (Dolen allanol) yn nodi rolau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr er mwyn sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Heddiw, mae grŵp Gweithdrefnau Diogelu Cymru wedi lansio’r Safonau Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol (Dolen allanol), fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelu.

Cafodd y safonau hyn eu datblygu dros yr 18 mis diwethaf ac maent yn cyd-fynd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Mae'r safonau yn nodi'r disgwyliadau o ran gwybodaeth, sgiliau, agweddau a gwerthoedd i bobl sy'n gweithio gydag oedolion a phlant a allai wynebu risg o gael eu cam-drin, eu niweidio neu eu hesgeuluso.