Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 17 Tachwedd 2022
  • Newyddion

Rydym yn recriwtio gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio i un o'r Arolygiaethau.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer 10 Swyddog cymorth Tîm ar y cyd ag AGIC ledled Cymru (Dolen allanol).  Bydd y deiliaid swydd llwyddiannus yn cefnogi'r Arolygiaethau i gyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol ac yn eu helpu i gyflawni eu hamcanion busnes corfforaethol. Bydd y rôl yn cynnig sgiliau trosglwyddadwy a phrofiad da mewn perthynas â rheoli gwaith, gwasanaeth cwsmeriaid a systemau a phrosesau gweinyddol.

Ynghyd ag AGIC, rydym yn gweithredu dull hybrid o weithio, sef 'Gweithio'n Glyfar' fel y'i gelwir yn Llywodraeth Cymru; mae hyn yn cynnwys cyfuniad o weithio gartref a gweithio yn y swyddfa yn unol â'ch ymrwymiadau ac anghenion y busnes.

Ewch i'r rhestr swyddi am ragor o wybodaeth. (Dolen allanol)