Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 15 Rhagfyr 2022
  • Newyddion

Datganiad Blynyddol 2023 – canllawiau i ddarparwyr

Rydym am rannu'r gofynion ar gyfer Datganiad Blynyddol 2022-23 cyn gynted â phosibl.

Rydym wedi llunio canllawiau i gynghori darparwyr ynghylch sut i gwblhau'r Datganiad Blynyddol ar gyfer 2022-23, sy'n cynnwys rhestr o'r cwestiynau a gaiff eu cynnwys yn y Datganiad Blynyddol.

Mae'r canllawiau wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Cyflwyno Datganiad Blynyddol.

Pwy sydd angen cwblhau Datganiad Blynyddol?

Bydd angen i'r mathau canlynol o ddarparwyr gwblhau'r Datganiad Blynyddol:

  • Gwasanaethau cartrefi gofal
  • Gwasanaethau cymorth cartref
  • Gwasanaethau llety diogel
  • Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
  • Gwasanaethau maethu rheoleiddiedig
  • Gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig
  • Gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig
  • Gwasanaethau lleoli oedolion

Pryd y caiff yr ymarfer Datganiadau Blynyddol nesaf ei gynnal?

Bydd ymarfer Datganiadau Blynyddol y flwyddyn nesaf yn dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn dod i ben ganol nos ar 26 Mai 2023.

Cwestiynau?

E-bostiwch agc@llyw.cymru.