Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 1 Chwefror 2023
  • Newyddion

Cynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yng Nghastell-nedd Port Talbot

Cynhaliwyd yr adolygiad ym mis Tachwedd 2022.

Diben yr adolygiad yw rhoi proses graffu allanol ar waith, rhoi sicrwydd a hyrwyddo gwelliannau o ran ansawdd arferion mewn perthynas â chynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (cyn-achos).

Pan fydd gwasanaethau cymdeithasol yn pryderu am les plentyn, mae'n bosibl y byddant yn cynnal Cyfarfod Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO) neu gyfarfod cyn-achos. Os na wneir newid neu welliannau digonol yn dilyn y cyfarfod hwn, yna efallai y bydd angen i'r awdurdod lleol wneud cais i'r llys gan ofyn iddo wneud gorchmynion i amddiffyn y plentyn.

Mae Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot wedi mabwysiadu fframwaith sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, wedi'i ategu gan egwyddorion trefniadau gweithio mewn partneriaeth ac arferion yn seiliedig ar gydberthnasau. Mae tystiolaeth o ffeiliau achos a chyfweliadau yn dangos bod yr awdurdod lleol yn gweithredu i sicrhau bod plant sydd angen help ac amddiffyn yn cael gwasanaeth amserol sy'n diwallu eu hanghenion.

Camau nesaf

Bydd AGC yn cyhoeddi adroddiad trosolwg cenedlaethol yn seiliedig ar ein canfyddiadau yn ystod gwanwyn 2023.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyr llawn isod.

Cynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yng Nghastell-nedd Port Talbot