Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae'r llythyr hwn yn crynhoi canfyddiadau ein gweithgarwch yn ystod mis Tachwedd 2022.

Rhwng 7 a 10 Tachwedd 2022, gwnaethom adolygu gwasanaethau plant Cyngor Castell-nedd Port Talbot fel rhan o'n Hadolygiad Cenedlaethol o gynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus. Pan fydd gwasanaethau cymdeithasol yn pryderu am les plentyn, mae'n bosibl y byddant yn cynnal Cyfarfod Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO) neu gyfarfod cyn-achos. Os na wneir newid neu welliannau digonol yn dilyn y cyfarfod hwn, yna efallai y bydd angen i'r awdurdod lleol wneud cais i'r llys gan ofyn iddo wneud gorchmynion i amddiffyn y plentyn.

Diben yr adolygiad yw rhoi proses graffu allanol ar waith, rhoi sicrwydd a hyrwyddo gwelliannau o ran ansawdd arferion mewn perthynas â chynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (cyn-achos).

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyr llawn isod. Bydd gweithgarwch yn cael ei gwblhau mewn pedwar awdurdod lleol ledled Cymru a bydd y canfyddiadau yn cyfrannu at yr Adolygiad Cenedlaethol gan ystyried gwybodaeth a gafwyd hefyd drwy hunanwerthusiad pob awdurdod lleol.