Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad ar y cyd o drefniadau amddiffyn plant (JICPA) ym Mhowys
Cynhaliwyd yr arolygiad ar y cyd ym mis Hydref 2023.
Rhwng 16 ac 20 Hydref 2023, gwnaethom weithio gydag Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Fawrhydi (HMICFRS), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a'r Arolygiaeth dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) i gynnal arolygiad ar y cyd o'r ymateb amlasiantaethol i achosion o gam-drin ac esgeuluso plant ym Mhowys.
Mae'r adroddiad yn nodi caiff cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth eu croesawu. Fel arfer, caiff camau gweithredu eu cymryd o fewn terfynau amser priodol, ac mae cymorth a chamau amddiffyn ar waith i ddiwallu anghenion plant. Ceir presenoldeb a chyfranogiad amlasiantaethol da mewn cyfarfodydd amddiffyn plant a drefnir o dan Weithdrefnau Diogelu Cymru. Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn gwneud rhai argymhellion ar gyfer gwelliannau fel galluogi'r plant i gymryd rhan fwy rhagweithiol mewn fforymau gwneud penderfyniadau a'r angen i symleiddio systemau ar gyfer cofnodi gwybodaeth am ddiogelu.
Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion:
Adolygiad ar y Cyd gan Arolygiaethau o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA): Powys 2023