Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 3 Chwefror 2023
  • Newyddion

Archwilio ffyrdd newydd o weithio ar gyfer hyrwyddo gwelliant - cynllun peilot

Rydym yn bwriadu profi dull newydd o gefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae i wella.

Yr haf diwethaf, gwnaethom nodi sut roeddem yn archwilio dull newydd o gefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae i wella, a fydd yn mynd law yn llaw â'n methodoleg arolygu bresennol.

Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gydag ystod o randdeiliaid i ddatblygu math newydd o gyfarfod gyda darparwyr rhwng eu harolygiadau, a elwir yn Gyfarfodydd Gwella.

Nod y cyfarfodydd hyn yw rhoi'r cyfle i ddarparwyr ein hysbysu o unrhyw welliannau y maent wedi'u gwneud ers yr arolygiad diwethaf, gan gynnwys sut maent wedi ymateb i achos o ddiffyg cydymffurfio neu i argymhellion; unrhyw welliannau eraill y maent wedi'u nodi fel rhan o'u hunanwerthusiad; a'r hyn y maent wedi'i wneud i roi'r gwelliannau hyn ar waith.

Hoffem hefyd glywed am unrhyw welliannau wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol, a byddwn yn cyfeirio darparwyr at ffynonellau eraill i gael cyngor a chymorth a fydd, o bosibl, o help iddynt.

Y camau nesaf

Rydym wedi ysgrifennu at yr holl leoliadau gofal plant a chwarae, gan eu gwahodd i ddatgan eu diddordeb mewn ymuno â'r cynllun peilot newydd cyffrous hwn a fydd yn cynnwys tua 60 o leoliadau.

Bydd grŵp o ddarparwyr o amrywiaeth o wahanol fathau o leoliadau ledled Cymru yn cael ei greu i gymryd rhan mewn Cyfarfod Gwella ac i gyfrannu at werthusiad o'r broses newydd hon.

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y cynllun peilot, dylai darparwyr gwblhau'r arolwg byr a anfonwyd atynt ar e-bost erbyn 17 Chwefror 2023.

Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i'r prosiect ddatblygu.