Gwelliannau a ganfuwyd lle mae angen cymryd camau pellach i wella Gwasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cynhaliwyd ein gwiriad gwella rhwng 21 a 24 Tachwedd 2022.
Gwnaethom gynnal y gwiriad gwella hwn i adolygu’r cynnydd a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn perthynas â’r meysydd i’w gwella a nodwyd gennym yn ystod ein harolygiad gwerthuso perfformiad (PEI) ym mis Mai 2022.
Yn ystod ein harolygiad ym mis Mai 2022, gwnaethom nodi nifer o feysydd i'w gwella a lle roedd gennym bryderon sylweddol.
Yn y gwiriad gwella hwn gwelsom fod gwelliannau wedi'u gwneud, ond mae angen cymryd camau pellach i sicrhau bod llesiant plant a theuluoedd yn cael ei hybu a'i ddiogelu'n gyson. Mae angen gwella gwasanaethau plant yr awdurdod lleol o hyd.
Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ran sicrhau gwelliant yn ei wasanaethau plant, drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus.
Darllenwch y llythyr llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.