Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Llythyr gwiriad gwella awdurdod lleol: Gwasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae'r llythyr hwn yn crynhoi canfyddiadau'r gwiriad gwella ar Wasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod Tachwedd 2022.

Cynhaliwyd y gwiriad gwella hwn gennym rhwng 21 a 24 Tachwedd 2022, i adolygu'r cynnydd a wnaed gan yr awdurdod lleol yn dilyn yr arolygiad gwerthuso perfformiad (PEI) o Wasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Mai 2022.

Rydym yn ymgymryd â gweithgarwch arolygu yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; prif lwybrau ymholi; a'r safonau ansawdd yn y Cod ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn ein helpu i bennu pa mor effeithiol yw awdurdodau lleol wrth gefnogi, mesur, a chynnal gwelliannau i bobl ac mewn gwasanaethau.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyr isod.