Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 16 Mawrth 2023
  • Newyddion

Cynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yn Nhorfaen

Cynhaliwyd yr adolygiad ym mis Ionawr 2023.

Diben yr adolygiad yw rhoi proses graffu allanol ar waith, rhoi sicrwydd a hyrwyddo gwelliannau mewn perthynas â chynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (cyn-achos).

Pan fydd y gwasanaethau cymdeithasol yn pryderu am les plentyn, mae'n bosibl y byddant yn cynnal Cyfarfod Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO) neu gyfarfod cyn-achos. Os na wneir newid neu welliannau digonol yn dilyn y cyfarfod hwn, yna efallai y bydd angen i'r awdurdod lleol wneud cais i'r llys gan ofyn iddo wneud gorchmynion i amddiffyn y plentyn.

Roedd yn amlwg o'r cofnodion gofal cymdeithasol a welsom fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymrwymedig i helpu plant a phobl ifanc i aros gyda'u teuluoedd pan fo'n ddiogel iddynt wneud hynny. Gwelsom hyn yn cael ei adlewyrchu mewn diwylliant sefydledig o beidio â chychwyn achos oni bai fod llwybrau eraill wedi'u hystyried, a oedd hefyd yn amlwg yn y ddogfennaeth a welsom ac yn ein trafodaethau ag ymarferwyr arweiniol.

Camau nesaf

Byddwn yn cyhoeddi adroddiad trosolwg cenedlaethol yn seiliedig ar ein canfyddiadau yn ystod gwanwyn 2023.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyr llawn isod.

Cynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yn Nhorfaen