Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yn Nhorfaen

Mae'r llythyr hwn yn crynhoi canfyddiadau ein gweithgarwch yn ystod mis Ionawr 2023.

Rhwng 17 a 19 Ionawr 2023, gwnaethom adolygu gwasanaethau plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen fel rhan o'n hadolygiad cenedlaethol o gynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus. 

Pan fydd gwasanaethau cymdeithasol yn pryderu am les plentyn, mae'n bosibl y byddant yn cynnal Cyfarfod Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO) neu gyfarfod cyn-achos. Os na wneir newid neu welliannau digonol yn dilyn y cyfarfod hwn, yna efallai y bydd angen i'r awdurdod lleol wneud cais i'r llys gan ofyn iddo wneud gorchmynion i amddiffyn y plentyn. 

Diben yr adolygiad yw rhoi proses graffu allanol ar waith, rhoi sicrwydd a hyrwyddo gwelliannau mewn perthynas â chynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (cyn-achos).

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyr llawn isod. Bydd gweithgarwch yn cael ei gwblhau mewn pedwar awdurdod lleol ledled Cymru a bydd y canfyddiadau yn cyfrannu at yr adolygiad cenedlaethol gan ystyried gwybodaeth a gafwyd hefyd drwy hunanwerthusiad pob awdurdod lleol.