Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 3 Ebrill 2023
  • Newyddion

Gall darparwyr gwasanaethau oedolion a phlant ddechrau cyflwyno eu Datganiad Blynyddol

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r datganiad yw 26 Mai 2023.

Mae'r Datganiad Blynyddol bellach ar gael i Unigolion Cyfrifol ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant ei gwblhau gan ddefnyddio eu cyfrif AGC Ar-lein.

Pwy all gyflwyno'r Datganiad Blynyddol?

Dylai'r Unigolyn/Unigolion Cyfrifol neu swyddog/swyddogion y sefydliad sy'n gysylltiedig â'r darparwr sydd wedi actifadu ei gyfrif AGC Ar-lein agor y Datganiad Blynyddol, ei gwblhau a'i gyflwyno.

Dim ond rhai adrannau penodol o'r ffurflen y gall cynorthwywyr ar-lein eu cwblhau.

Os nad ydych wedi actifadu eich cyfrif AGC Ar-lein eto, ffoniwch ni ar 0300 7900 126 yn ystod oriau swyddfa (rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 9am a 4:30pm ar ddydd Gwener).

Beth sy'n digwydd i'r Datganiad Blynyddol ar ôl ei gyflwyno?

Caiff pob Datganiad Blynyddol ei gyhoeddi ar ein gwefan maes o law.

Cymorth a chanllawiau

Rydym wedi creu fideo byr sy'n dangos sut i gwblhau ffurflen eleni, yn ogystal â chanllawiau ysgrifenedig i'ch helpu, sydd ar gael ar ein tudalen Cyflwyno Datganiad Blynyddol.

Cwestiynau?

E-bostiwch agc@llyw.cymru