Mae adroddiad gwerthuso gwasanaethau plant a phobl ifanc a gwasanaethau oedolion Cyngor Sir Bro Morgannwg wedi’i gyhoeddi
Cynhaliwyd yr arolygiad ym mis Ionawr 2023.
Diben yr arolygiad oedd adolygu gwasanaethau plant a phobl ifanc a gwasanaethau oedolion Cyngor Sir Bro Morgannwg.
Yn yr un modd â llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru, nodwyd gennym fod Bro Morgannwg yn wynebu cyfnod heriol mewn perthynas â darparu gofal cymdeithasol. Mae llawer o'r pwysau a wynebir gan yr awdurdod lleol yn adlewyrchu'r cyd-destun adfer yn dilyn y pandemig, sydd wedi arwain at lefelau uchel o alw ac anghenion mwy cymhleth, gan gynnwys effaith yr argyfwng 'costau byw'.
Gwelsom dystiolaeth glir o welliannau a chynnydd a wnaed gan yr awdurdod lleol, yn dilyn gwiriad sicrwydd o wasanaethau plant a phobl ifanc a gynhaliwyd gennym ym mis Mawrth a mis Tachwedd 2021. Mae'r gwelliannau hyn wedi arwain at ganlyniadau gwell i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.