Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 10 Mai 2023
  • Newyddion

Rydym wedi cyhoeddi ein Cod Ymarfer wedi’i ddiweddaru ar gyfer ein gweithgarwch arolygu awdurdodau lleol

Mae'r Cod wedi'i ddiweddaru yn adlewyrchu'r newidiadau rydym wedi'u gwneud i'r ffordd y byddwn yn adolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.

Cyhoeddwyd fersiwn flaenorol ein Cod Ymarfer yn 2019. Mae’r fersiwn newydd yn esbonio sut rydym wedi cyflwyno gwiriadau sicrwydd o awdurdodau lleol i’n galluogi i feithrin dealltwriaeth sylfaenol o’r hyn sy’n digwydd ym mhob awdurdod lleol. Roeddem yn arfer cyfeirio at hyn fel ‘gweithgaredd â phwyslais penodol’. Mae canlyniadau'r gwiriadau hyn bellach yn cael eu cyhoeddi, er mwyn gwella tryloywder.

Mae mathau eraill o weithgarwch yn cynnwys arolygiadau gwerthuso perfformiad a gwiriadau gwella.

Rydym wedi profi, dysgu, addasu a gwella ein dull dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan ddilyn un o’n hegwyddorion arweiniol, sef gweithredu ar sail gwybodaeth.

Rydym yn adrodd ar ymarfer da; yr hyn y mae'n rhaid ei wella (lle nad yw awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau statudol); a beth y dylid ei wella.

Gallwch gael gwybod mwy drwy ddarllen ein Cod Ymarfer ar dudalen arolygu awdurdodau lleol ein gwefan.  Fel arall, gwyliwch y fideo byr isod i ddarganfod pa newidiadau rydym wedi'u gwneud.