Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 12 Mai 2023
  • Newyddion

Mae gan ddarparwyr gwasanaethau i oedolion a phlant dwy wythnos ar ôl i gyflwyno’u Batganiad Blynyddol

Y dyddiad cau ar gyfer eu cyflwyno yw 26 Mai 2023.

Mae'r Datganiad Blynyddol nawr ar gael i unigolion cyfrifol ar gyfer gwasanaethau i oedolion a phlant eu cwblhau drwy ddefnyddio’u cyfrif AGC Ar-lein (Dolen allanol).

Pwy all gyflwyno'r Datganiad Blynyddol?

Dylai’r Unigolyn/Unigolion Cyfrifol neu swyddog/swyddogion y sefydliad sy'n gysylltiedig â'r darparwr sydd wedi agor ei gyfrif AGC Ar-lein cwblhau a chyflwyno y Datganiad Blynyddol.

Dim ond rhai adrannau o'r Datganiad Blynyddol y gall cynorthwywyr ar-lein eu llenwi.

Os nad ydych wedi agor eich cyfrif ar-lein yn llawn, ffoniwch ni ar 0300 7900 126.

Cymorth ac arweiniad

Mae fideo byr, sy'n dangos i chi sut i gyflwyno eich datganiad blynyddol, ynghyd â chanllawiau ysgrifenedig i'ch cefnogi, ar dudalen Cyflwyno Datganiad Blynyddol ein gwefan.

Cwestiynau?

Anfonwch neges e-bost at agc@llyw.cymru.