Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 22 Mehefin 2023
  • Newyddion

Adolygiad ar y cyd o drefniadau amddiffyn plant yng Nghymru – canfyddiadau interim wedi'u cyhoeddi

Rydym yn arwain yr adolygiad ar y cyd ochr yn ochr ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Estyn.

Mewn ymateb i nifer o farwolaethau trasig ymhlith plant ledled Cymru a Lloegr, cawsom ein gwahodd gan Lywodraeth Cymru i arwain adolygiad amlasiantaeth cyflym o'r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau yn ymwneud ag amddiffyn plant, ac rydym yn gwneud hynny ar y cyd ag arolygiaethau eraill.

Diben yr adolygiad yw pennu i ba raddau y mae'r strwythurau a'r prosesau presennol yng Nghymru yn sicrhau bod plant yn cael eu gosod ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, a'u tynnu oddi arni, yn briodol (pan fydd tystiolaeth ddigonol i ddangos ei bod yn ddiogel gwneud hynny).

Canfyddiadau interim

Esboniodd Gillian Baranski, Prif Arolygydd AGC, ein dull gweithredu hyd yma a pham y mae'r gwaith hwn mor bwysig.

Rydym wedi dewis cyhoeddi'r canfyddiadau interim cynnar hyn er mwyn rhannu gwersi a ddysgwyd a hyrwyddo arferion gorau ar y cyfle cyntaf posibl. Llywiwyd y canfyddiadau cychwynnol hyn gan adborth gan gymheiriaid ym maes addysg, iechyd, yr heddlu a byrddau diogelu rhanbarthol, yn ogystal â sgyrsiau uniongyrchol â phlant a phobl ifanc sydd ar y gofrestr amddiffyn plant ar hyn o bryd neu sydd wedi bod arni yn flaenorol.

Mae'r gwaith ymgynghori hwn yn mynd rhagddo, ac rydym yn arbennig o awyddus i glywed mwy gan y plant a'r bobl ifanc hynny.

Mae'r dull hwn o gydweithio yn tynnu sylw at y ffaith bod diogelu yn fusnes i bawb. Fel arolygiaethau, roeddem am gydweithio er mwyn llunio darlun cyfannol o'r arferion presennol ledled Cymru a nodi gyda'n gilydd yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn y gellid ei wella.

Mae'r canfyddiadau cychwynnol wedi dangos bod arferion da yn bodoli, ond mae angen iddynt gael eu cymhwyso'n fwy cyson, yn lleol ac yn genedlaethol. Mae angen i ni sicrhau bod llais y plentyn yn ganolog i'r penderfyniadau a wneir.

Y camau nesaf

Mae'r arolygiaethau yn annog ymarferwyr o bob cwr o Gymru sy'n ymwneud â diogelu ac amddiffyn plant i roi'r canfyddiadau cynnar hyn ar waith ac i ddysgu oddi wrthynt, er mwyn atgyfnerthu gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn y tymor byr a'r tymor hwy.

Caiff yr adroddiad llawn, sy'n un o nifer o ddarnau o waith yn ymwneud â diogelu plant, ei gyhoeddi yn ystod hydref 2023.

Mae’r adroddiad llawn i’w weld isod:

Adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant – canfyddiadau interim