Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant – canfyddiadau interim

Canfyddiadau interim adolygiad amlasiantaeth gan gynnwys cydweithwyr o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Estyn.

Cawsom ein gwahodd gan Lywodraeth Cymru i arwain adolygiad amlasiantaeth cyflym o'r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau yn ymwneud ag amddiffyn plant, mewn ymateb i nifer o farwolaethau trasig ymhlith plant ledled Cymru a Lloegr.

Diben yr adolygiad yw pennu i ba raddau y mae'r strwythurau a'r prosesau presennol yng Nghymru yn sicrhau bod plant yn cael eu gosod ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, a'u tynnu oddi arni, yn briodol (pan fydd tystiolaeth ddigonol i ddangos ei bod yn ddiogel gwneud hynny).

Canfyddiadau interim

Llywiwyd y canfyddiadau cychwynnol gan adborth gan gymheiriaid ym maes addysg, iechyd, yr heddlu a byrddau diogelu rhanbarthol, yn ogystal â sgyrsiau uniongyrchol â phlant a phobl ifanc sydd ar y gofrestr amddiffyn plant ar hyn o bryd neu sydd wedi bod arni yn flaenorol.

Mae'r gwaith ymgynghori yn mynd rhagddo.

Mae'r canfyddiadau cychwynnol wedi nodi bod arferion da yn bodoli. Fodd bynnag, mae angen iddynt gael eu cymhwyso'n fwy cyson, yn lleol ac yn genedlaethol.

Y camau nesaf

Mae'r arolygiaethau yn annog ymarferwyr o bob cwr o Gymru sy'n ymwneud â diogelu ac amddiffyn plant i roi'r canfyddiadau cynnar hyn ar waith ac i ddysgu oddi wrthynt, er mwyn atgyfnerthu gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn y tymor byr a'r tymor hwy.

Caiff yr adroddiad llawn, sy'n un o nifer o ddarnau o waith yn ymwneud â diogelu plant, ei gyhoeddi yn ystod hydref 2023.

I gael rhagor o wybodaeth am yr adolygiad cyflym, darllenwch yr adroddiad llawn isod