Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 2 Hydref 2023
  • Newyddion

Byddem yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Yn ystod mis Hydref byddwn yn cynnal gwiriad gwella o adran gwasanaethau cymdeithasol Oedolion a Phlant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Diben y gwiriad hwn fydd adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni dyletswyddau a swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â'r ddeddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru. Byddwn hefyd yn adolygu pa gynnydd y mae'r awdurdod lleol wedi'i wneud yn y meysydd y nodwyd bod angen eu gwella yn ystodein Harolygiad Gwerthuso Perfformiad diwethaf ym Mehefin 2022.

Os ydych yn cael gwasanaethau gofal a chymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, hoffem glywed am eich profiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg hwn isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 2 Tachwedd 2023.

Arolwg i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol (Dolen allanol)

Arolwg i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol – hawdd ei ddeall (Dolen allanol)

Caiff ein llythyr canfyddiadau ar gyfer y gwasanaethau hyn ei gyhoeddi ar ein gwefan.