Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adroddiad arolygiad gwerthuso perfformiad: Gwasanaethau Oedolion a Phlant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiad o wasanaethau oedolion a phlant Wrecsam ym mis Mehefin 2022.

Gwnaethom gynnal yr arolygiad hwn er mwyn adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth arfer ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau parthed gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.

Bu’r arolygiad hwn yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd gwasanaethau a threfniadau’r awdurdod lleol ar gyfer helpu ac amddiffyn pobl.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.