Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 15 Tachwedd 2023
  • Newyddion

Rydym wedi cyhoeddi ein hofferyn hunanadrodd data newydd ar gyfer gofal plant a chwarae

Mae'r offeryn hunanadrodd data ar gyfer gofal plant a chwarae yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol gan 2790 o ddarparwyr cofrestredig.

Yn gynharach eleni, gwnaethom gasglu amrywiaeth o wybodaeth a data gan bob darparwr gofal plant a chwarae cofrestredig yng Nghymru drwy broses y Datganiadau Hunanasesu Gwasanaeth. Mae'r wybodaeth hon, yn ogystal â data o flynyddoedd blaenorol, wedi ein galluogi i greu'r offeryn gweladwy hwn.

Mae'r offeryn data yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol, o hyfforddiant a chymwysterau staff i'r fframweithiau ansawdd a ddefnyddir. Mae'r offeryn hefyd yn amlinellu'r nifer o bobl sy'n gweithio yn y sector gofal plant a chwarae a nifer y swyddi gwag.

Kevin Barker, Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae yn AGC:

Rwyf wrth fy modd â'r ffaith y gallwn bellach gyhoeddi'r data pwysig hyn gan y sector gofal plant a chwarae yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i bob un o'r 2790 o ddarparwyr a roddodd o'u hamser i rannu'r wybodaeth hanfodol hon â ni. 

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Hadolygiad Annibynnol o Warchod Plant (Dolen allanol) a amlinellodd rhai argymhellion allweddol i fynd i'r afael â'r gostyngiad yn nifer y gwarchodwyr plant ledled Cymru. Rydym yn parhau i weithio gyda nhw a'n partneriaid i sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn i helpu'r sector gofal plant a chwarae yng Nghymru i ffynnu.

Dyma grynodeb o rywfaint o'r data rydym wedi'u casglu:

Er mwyn rhoi cynnig ar yr offeryn, ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Offer data