Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 9 Ionawr 2024
  • Newyddion

Bydd y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn fyw ar 31 Ionawr

Byddwn yn ysgrifennu at bob darparwr gofal plant a chwarae cyn bo hir am ei Ddatganiad Hunanasesu Gwasanaeth 2024.

Beth yw Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth?

Ffurflen ar-lein yw'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth y mae'n ofynnol i Bersonau Cofrestredig ac Unigolion Cyfrifol ei chwblhau. Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae.

Beth rydym yn ei wneud â'r data?

Mae'r wybodaeth y mae darparwyr yn ei rhoi i ni wrth gyflwyno eu Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn ein helpu i gynllunio ein harolygiadau ac i roi'r help a'r cymorth cywir i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Bydd y data o bob cwr o Gymru yn cael eu casglu a'u cadw'n ddienw ac yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach yn 2024. Gallwch weld data'r llynedd yma

Gwybodaeth bwysig i bob darparwr gofal plant a chwarae:

Os ydych yn rhedeg gwasanaeth gofal plant a chwarae, mae'n ofynnol i chi gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth gan ddefnyddio AGC Ar-lein erbyn 15 Mawrth 2024.

Os na fyddwch yn cwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth erbyn y dyddiad hwn, bydd yn effeithio ar eich graddau yn y dyfodol.

Bydd angen cyfrif AGC Ar-lein arnoch i gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth.

Os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein, bydd angen i chi weithredu ar unwaith:

  • ewch i AGC Ar-lein (Dolen allanol)
  • neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126 a dewiswch opsiwn 4

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am gwblhau Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth, e-bostiwch agc@llyw.cymru.