Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 10 Ionawr 2024
  • Newyddion

Gwelliannau a ganfuwyd lle mae angen cymryd camau pellach i wella gwasanaethau oedolion a phlant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cynhaliwyd ein gwiriad gwella rhwng 24 Hydref a 2 Tachwedd 2023.

Roedd hyn i weld a wnaed cynnydd ers ein harolygiad llawn diwethaf yn ôl ym mis Mehefin 2022.

Gwelsom fod yr uwch-reolwyr a'r aelodau arweiniol wedi cyflwyno diwylliant newydd o ddisgwyliadau a safonau uwch ym maes gofal cymdeithasol yn yr awdurdod lleol, gyda thîm arwain cryf yn y gwasanaethau cymdeithasol.

Mae'r ymarferwyr yn gadarnhaol am eu profiad o weithio i'r awdurdod lleol. Ar y cyfan, mae'r morâl yn dda, a disgrifiodd y staff eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a dywedodd bod y rheolwyr yn gefnogol ac yn hawdd mynd atynt. Dywedodd y mwyafrif o staff y gwasanaethau plant ac oedolion a ymatebodd i'n harolwg eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan gydweithwyr a rheolwyr i wneud eu gwaith.

Roedd yr uwch-reolwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd mynediad at ymyriadau cynnar er mwyn lleihau'r angen am wasanaethau statudol ac maent yn canolbwyntio ar feithrin a hyrwyddo cryfderau a gwydnwch pobl. Yn ystod y gwiriad gwella, gwelsom dystiolaeth glir o'r gwelliannau a'r cynnydd a wnaed mewn sawl maes sydd wedi arwain at ganlyniadau gwell i bobl.

Er gwaethaf y gwelliannau hyn, roedd yr uwch-reolwyr yn glir bod y broses o wella gwasanaethau oedolion a phlant yn parhau'n flaenoriaeth bwysig i'r awdurdod lleol, yn enwedig mewn gwasanaethau plant, lle mae natur fregus y sefyllfa o ran y gweithlu yn dal i beri risg sylweddol. Mae angen cymryd camau i fynd i'r afael â meysydd allweddol o hyd er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ganlyniadau llesiant pobl Wrecsam.

Darllenwch y llythyr llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.

Llythyr gwiriad gwella awdurdod lleol: Gwasanaethau oedolion a phlant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam