Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Llythyr gwiriad gwella awdurdod lleol: Gwasanaethau oedolion a phlant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae'r llythyr hwn yn crynhoi canfyddiadau gwiriad gwella'r gwasanaethau oedolion a phlant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ym mis Hydref a mis Tachwedd 2023.

Roedd y gwiriad gwella hwn yn dilyn ein harolygiad gwerthuso perfformiad ym mis Mehefin 2022.

Rydym yn ymgymryd â gweithgarwch arolygu yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; prif lwybrau ymholi; a'r safonau ansawdd yn y Cod ymarfer mewn perthynas â pherfformiad a gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn ein helpu i bennu pa mor effeithiol yw awdurdodau lleol wrth gefnogi, mesur, a chynnal gwelliannau i bobl ac mewn gwasanaethau.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyr isod.