Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 25 Ionawr 2024
  • Newyddion

Cyhoeddi adroddiad ar yr adolygiad cenedlaethol o gynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc

Gwnaethom ystyried y camau y mae awdurdodau lleol yn eu cymryd cyn dechrau achosion llys i ofyn am orchymyn gofal i roi plentyn mewn gofal, neu i orchymyn goruchwylio gael ei wneud.

Canfu ein hadolygiad fod teuluoedd sy'n destun gwaith cynllunio cyfreithiol a gwaith cyn-achos yn cael cymorth eang a chyfleoedd i wneud newidiadau effeithiol cyn y caiff camau cyfreithiol pellach eu cymryd. Mae hyn yn golygu bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i aros gyda'u teuluoedd lle bo'n ddiogel iddynt wneud hynny.

Fodd bynnag, gwelsom hefyd fod angen gwneud gwelliannau o ran gallu rhieni i gael gafael ar wasanaethau eirioli, a bod diffyg llenyddiaeth glir a chryno i esbonio proses yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus i deuluoedd.

Roedd yr adolygiad hefyd yn disgrifio rhai achosion o oedi wrth gynnal asesiadau, a allai atal y broses o wneud penderfyniadau ac, yn y pen draw, effeithio ar y gallu i ddarparu cymorth amserol.

Y camau nesaf

Mae angen amser ar awdurdodau lleol i roi ymarfer ar waith ac i wneud gwelliannau pellach. Byddwn yn parhau i olrhain y cynnydd a wneir gan awdurdodau lleol yn ystod ein gweithgareddau adolygu perfformiad yn 2025 a thu hwnt.

I ddarllen yr adroddiad llawn, cliciwch ar y ddolen ar waelod y dudalen hon.