Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yng Nghymru

Adolygiad cenedlaethol o gynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus.

Mae'r adolygiad yn canolbwyntio ar y camau y mae awdurdodau lleol yn eu cymryd cyn dechrau achosion llys i ofyn am orchymyn gofal i roi plentyn mewn gofal, neu i orchymyn goruchwylio gael ei wneud. Yn gyfreithiol, cyfeirir at y camau hyn fel proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus.

Canfu'r adolygiad fod teuluoedd sy'n destun gwaith cynllunio cyfreithiol a gwaith cyn-achos yn cael cymorth eang a chyfleoedd i wneud newidiadau effeithiol cyn y caiff camau cyfreithiol pellach eu cymryd. Mae hyn yn golygu bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i aros gyda'u teuluoedd lle bo'n ddiogel iddynt wneud hynny.

Canfu'r adolygiad hefyd fod angen gwneud gwelliannau o ran gallu rhieni i gael gafael ar wasanaethau eirioli, a bod diffyg gwybodaeth glir a chryno i esbonio proses yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus i deuluoedd. Mae'r adolygiad hefyd yn disgrifio rhai achosion o oedi wrth gynnal asesiadau, a allai atal y broses o wneud penderfyniadau ac, yn y pen draw, effeithio ar y gallu i ddarparu cymorth amserol.

Er bod yr adroddiad yn amlinellu buddiannau cynnig cymorth un-i-un rheolaidd gan eu gweithiwr cymdeithasol i blant, mae gallu awdurdodau lleol i ddarparu'r cymorth hanfodol hwn dan bwysau cynyddol.

Y camau nesaf

Byddwn yn parhau i olrhain y cynnydd a wneir gan awdurdodau lleol fel rhan o'i gweithgareddau adolygu perfformiad yn 2025 a thu hwnt.

Darllenwch yr adroddiad llawn a'r holl ganfyddiadau allweddol isod.