Mae copïau o Ddatganiadau Blynyddol y llynedd bellach ar gael ar ein gwefan
Rydym yn cael data gan rai darparwyr penodol bob blwyddyn ac mae'n ofynnol i ni eu cyhoeddi o dan y gyfraith, fel rhan o broses y cyfeirir ati fel y Datganiad Blynyddol.
Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sy'n gweithredu unrhyw un o'r canlynol gyflwyno'r Datganiad Blynyddol:
- Gwasanaethau cartrefi gofal
- Gwasanaethau cymorth cartref
- Gwasanaethau llety diogel
- Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
- Gwasanaethau maethu rheoleiddiedig
- Gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig
- Gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig
- Gwasanaethau lleoli oedolion
Mae'r dogfennau hyn yn darparu gwybodaeth fanwl am sut mae gwasanaeth yn gweithredu, gan gynnwys hyfforddi staff a chynllunio'r gweithlu.
Gallwch ddarllen Datganiad Blynyddol 2022/23 gwasanaeth ar waelod tudalen y gwasanaeth yn y cyfeiriadur ar ein gwefan. Gallwch hefyd weld yr holl Ddatganiadau Blynyddol a gyflwynwyd gan ddarparwr penodol ar dudalen y darparwr.
I gael manylion am y broses Datganiadau Blynyddol, ewch i'n tudalen Datganiad Blynyddol.
Bydd proses Datganiadau Blynyddol 2024 yn dechrau ar 1 Ebrill 2024. Byddwn yn ysgrifennu at ddarparwyr gwasanaethau oedolion a phlant yn ystod yr wythnosau nesaf i roi rhagor o fanylion iddynt am ymarfer casglu data y flwyddyn hon.