Datganiad blynyddol
Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaeth cofrestredig gyflwyno datganiad blynyddol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol.
Cyflwyno
Rhaid i’r datganiadau blynyddol gael eu cyflwyno gan ddarparwyr gwasanaeth sy’n rhedeg unrhyw un o’r canlynol:
- Gwasanaethau cartrefi gofal
- Gwasanaethau gofal cartref
- Gwasanaethau llety diogel
- Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd
- Gwasanaethau maethu rheoleiddiedig
- Gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig
- Gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig
- Gwasanaethau lleoli oedolion
- Gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig
Nid oes angen i’r mathau canlynol o wasanaethau gyflwyno unrhyw ddatganiadau blynyddol:
- Gwasanaethau maethu awdurdodau lleol
- Gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol
- Colegau addysg bellach
- Ysgolion preswyl
Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y datganiadau blynyddol wedi’i nodi yn Neddf 2016 a Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017.
Paratoi
- Bydd y system datganiad blynyddol ar gael drwy eich cyfrif AGC Ar-lein o 1 Ebrill ac yn cau ar 26 Mai 2026.
- Er mwyn sicrhau bod eich Datganiadau Blynyddol yn cael eu cyflwyno mewn pryd, mewngofnodwch i'ch cyfrif AGC Ar-lein cyn 1 Ebrill er mwyn sicrhau bod manylion eich gwasanaeth yn gywir ac yn gyfredol.
- Dim ond Unigolyn/Unigolion Cyfrifol neu Swyddog/Swyddogion Sefydliadol sy'n gysylltiedig â'r darparwr sydd wedi agor ei gyfrif AGC Ar-lein cwblhauall gyflwyno eich datganiad blynyddol.
Help a chymorth
Byddwn yn cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru a dogfen cwestiynau cyffredin cyn 1 Ebrill. Bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i ddeall y gofynion newydd a'ch arwain drwy'r broses.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni:
- E-bost: AGC@llyw.cymru
- Ffôn: 300 7900 126