Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 27 Chwefror 2024
  • Newyddion

Dywedwch wrthym beth yw eich barn am ein rhaglen arolygu ar y cyd ag Estyn

Gydag Estyn, rydym ar y cyd yn arolygu’r gwasanaethau gofal plant a chwarae hynny sy’n cynnig elfen o addysg a ariennir, a elwir yn ‘nas cynhelir’.

Mae’r rhaglen arolygu ar y cyd bellach wedi bod yn rhedeg ers pum mlynedd, felly mae’r ddwy arolygiaeth wedi comisiynu adolygiad annibynnol i nodi meysydd o arfer gadarnhaol yn ogystal â meysydd i’w gwella.

Mae hyn yn cyd-fynd ag egwyddorion arweiniol AGC o gael ei harwain gan gudd-wybodaeth; gweithio ar y cyd; cefnogi gwelliant ac arloesedd; a myfyrio a dysgu.

Gwerthuswyr annibynnol

Mae asiantaeth annibynnol, Learning Partnership, yn cynnal yr adolygiad a bydd yn siarad ag ystod o randdeiliaid gan gynnwys arolygwyr a staff eraill yn y ddwy arolygiaeth; rhieni a gofalwyr plant sy'n defnyddio darpariaeth nas cynhelir; darparwyr a'u cynrychiolwyr gan gynnwys sefydliadau ambarél ac awdurdodau lleol; a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru ym maes gofal plant ac addysg.

Os ydych yn gymwys i gael arolygiad ar y cyd, dylech hefyd fod wedi derbyn e-bost gan eich Athro/Athrawes Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar (EYAT) ynghylch sut y gallwch gymryd rhan mewn rhai gweithdai ar-lein a chyfrannu at yr adolygiad hwn.

Cymerwch ran

Rydym am glywed gan bawb sydd wedi profi ein harolygiadau ar y cyd neu sydd â diddordeb ynddynt.

Mae gennym dri arolwg sy’n cael eu cydlynu ar ein cyfer gan Learning Partnership:

Y dyddiad cau ar gyfer yr arolygon hyn yw Dydd Gwener 8 Mawrth 2024 felly peidiwch ag oedi – rhowch eich barn i ni!

Hefyd, mae grwpiau ffocws dwyieithog i rieni a gofalwyr yn cael eu cynnal ar 19 Mawrth.

Cwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Glenda Dudley yn y Learning Partnership.