Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 18 Ebrill 2024
  • Newyddion

Ein canfyddiadau o wiriad sicrwydd ar y cyd o'r Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol yn Rhondda Cynon Taf

Gwnaethom gynnal y gwiriad sicrwydd hwn ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru rhwng 13 a 15 Chwefror 2024.

Mae'r tîm anableddau dysgu cymunedol hwn yn un amlasiantaethol, gyda staff yn gweithio ar draws yr awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn comisiynu Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddarparu rhai gwasanaethau gweithredol yn y sir.

Canfyddiadau

Gwnaeth arolygwyr o Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ganfod bod yr uwch-reolwyr yn ymwybodol o'r heriau parhaus sylweddol a wynebir wrth ymateb i alw ac anghenion mwy cymhleth, a phwysau ariannol. 

Gwelodd yr arolygwyr lawer o enghreifftiau o ymarferwyr yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd yn cydweithio'n effeithiol. Disgrifiodd ymarferwyr fanteision strwythur newydd y tîm anableddau dysgu cymunedol a'r ffaith bod y timau arbenigol wedi'u hailgyflwyno ym maes gofal cymdeithasol. Gwnaethant gydnabod ei bod yn ddyddiau cynnar a'u bod yn obeithiol y bydd y newid hwn yn cael effaith gadarnhaol ar bobl ag anabledd dysgu. 

Fodd bynnag, nododd yr arolygwyr na chaiff gwybodaeth bob amser ei rhannu'n effeithiol oherwydd y systemau gwahanol sydd ar waith ar gyfer cofnodi gwybodaeth yn yr awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 

Y camau nesaf

Rydym ni ac AGIC yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol. 

Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r arferion cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru. 

Bydd AGIC yn monitro cynnydd yn erbyn y gwelliannau sy'n gysylltiedig ag iechyd drwy Gynllun Gwella. 

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.