Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Llythyr gwiriad sicrwydd ar y cyd Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol yn Rhondda Cynon Taf

Gan weithio gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, gwnaethom arolygu gwaith Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Gwnaethom gynnal ein gwiriad sicrwydd rhwng 13 a 15 Chwefror 2024.

Mae'r tîm anableddau dysgu cymunedol hwn yn un amlasiantaethol, gyda staff yn gweithio ar draws yr awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn comisiynu Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddarparu gwasanaethau gweithredol yn y sir.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.