Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 1 Mai 2024
  • Newyddion

Cyhoeddi strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar y cyd

Rydym wedi cydweithio ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) i gyhoeddi'r strategaeth ar y cyd hon a fydd yn cael ei gweithredu o 2024-2028.

AGC ac AGIC yw’r arolygiaethau a’r rheoleiddwyr annibynnol ar gyfer gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Drwy ein gwaith, rydym yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn sicrhau llesiant pobl Cymru. 

Rydym wedi cyfuno ein profiad a'n gwybodaeth i weithio ar strategaeth ar y cyd a fydd yn cefnogi'r ddau sefydliad. 

Gyda'n gilydd, rydym yn rhoi pobl wrth wraidd yr hyn a wnawn ac rydym yn anelu at weithredu fel llais y gellir ymddiried ynddo sy’n dylanwadu ar welliannau ac yn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru. Rydym am helpu i wella mynediad pobl at y gwasanaethau hyn ac ansawdd eu profiad ohonynt. Yn ein barn ni, bydd sicrhau ffocws cryf ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith yn ein helpu i gyflawni'r nod hwn.

Bydd y strategaeth ar y cyd yn ategu cynlluniau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru, a bydd yn ceisio cyd-fynd â chynlluniau sydd eisoes yn bodoli a gwneud cysylltiadau rhyngddynt, megis Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (Dolen allanol) a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru (Dolen allanol).

Darllenwch fwy yn ein strategaeth lawn, drwy'r ddolen isod, ar waelod y dudalen hon.


Ein hamcanion strategol

Bydd ein strategaeth yn cynnig cyfleoedd newydd i helpu i leihau anghydraddoldebau mewn gwasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant.

Fel arolygiaethau a rheoleiddwyr, byddwn yn: 

  • Cryfhau'r ffocws ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwaith a lle byddwn yn dod o hyd i anghydraddoldebau byddwn yn eu herio ac yn rhoi gwybod amdanynt. Byddwn yn sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o'n gwaith, er mwyn ysgogi gwelliannau yn y ffordd y caiff gwasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant eu darparu i bobl sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig. 
  • Gwella ein trefniadau ar gyfer ymgysylltu â chymunedau amrywiol er mwyn rhoi llais a dylanwad cryf iddynt yn ein gwaith. Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o brofiadau pobl sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig er mwyn llywio ein penderfyniadau. 
  • Datblygu ein sefydliadau fel eu bod yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol. Byddwn yn datblygu gweithlu mwy amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Byddwn yn helpu aelodau ein gweithlu i lwyddo ac i ffynnu beth bynnag fo’u cefndir, mewn gweithleoedd teg a chynhwysol. Byddwn yn buddsoddi i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ein staff ac yn creu diwylliannau dysgu i’n galluogi i werthuso a herio ein dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.


Nod y strategaeth hon yw sbarduno gwelliannau a dangos ein hymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, er mwyn mynd i'r afael â'n cyfrifoldebau cymdeithasol fel rheoleiddwyr ac arolygiaethau i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael gafael ar ofal o ansawdd da.

Byddwn yn adrodd ar gynnydd wrth fodloni ein hamcanion drwy ein hadroddiadau blynyddol unigol.

Drwy ein camau gweithredu a amlinellir yn y strategaeth hon, bydd gennym ddealltwriaeth well o brofiadau iechyd a gofal cymdeithasol pobl o bob cefndir, ac yn gallu adlewyrchu llais y bobl yn ein gwaith yn well. Bydd y strategaeth ar y cyd hefyd yn gwella cysylltiadau a phrosesau rhannu gwybodaeth, gan gynnwys arferion da i wella ansawdd y gofal a ddarperir gan wasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant ledled Cymru.

Dywedodd Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, Gillian Baranski:

Gyda'r strategaeth hon, rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i herio ein hunain a’r sectorau rydym yn gweithio gyda nhw, i fod yn fwy cyfartal, yn fwy amrywiol ac yn fwy cynhwysol yn y ffordd rydym yn gweithio a’r ffordd y caiff gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant eu darparu.


Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:

Ni ddylai anghydraddoldeb chwarae unrhyw ran yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio na’u darparu. Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae ein sefydliadau yn ei chwarae o fewn y sectorau hyn a natur bellgyrhaeddol y ddau faes i gynifer o bobl ledled Cymru. Byddwn yn nodi ac yn herio anghydraddoldebau mewn gwasanaethau ble bynnag y byddwn yn dod o hyd iddynt, er mwyn sicrhau canlyniadau tecach a gwell i bobl.

Darllenwch fwy yn ein strategaeth lawn, drwy'r ddolen isod.