Rydym ni ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi Datganiad o Fwriad Strategol ar y cyd sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Y datganiad yw’r cam cyntaf tuag at strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y cyd a gaiff ei lansio ym mis Tachwedd 2023.
AGC ac AGIC yw’r arolygiaethau a’r rheoleiddwyr annibynnol ar gyfer gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Drwy ein gwaith, rydym yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn sicrhau llesiant pobl Cymru. Mae AGIC ac AGC wedi dod at ei gilydd i gyfuno ein profiad a’n gwybodaeth ac i weithio ar strategaeth ar y cyd sy’n cefnogi’r ddau sefydliad. Mae pobl wrth wraidd yr hyn a wnawn ac rydym yn anelu at weithredu fel llais y gellir ymddiried ynddo sy’n dylanwadu ar welliannau ac yn ysgogi gwelliannau ym maes gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru.
Rydym am helpu i wella mynediad pobl at y gwasanaethau hyn ac ansawdd eu profiad ohonynt.Yn ein barn ni, bydd sicrhau ffocws cryf ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith yn ein helpu i gyflawni'r nod hwn.
Fel arolygiaethau a rheoleiddwyr, byddwn yn:
- Cryfhau'r ffocws ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwaith a lle byddwn yn dod o hyd i anghydraddoldebau byddwn yn eu herio ac yn rhoi gwybod amdanynt.
Byddwn yn sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o'n gwaith, er mwyn ysgogi gwelliannau yn y ffordd y caiff gwasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant eu darparu i bobl sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig. - Byddwn yn gwella ein trefniadau ar gyfer ymgysylltu â chymunedau amrywiol er mwyn rhoi llais a dylanwad cryf iddynt yn ein gwaith.
Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o brofiadau pobl sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig er mwyn llywio ein penderfyniadau. - Datblygu ein sefydliadau fel eu bod yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol.
Byddwn yn datblygu gweithlu mwy amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Byddwn yn helpu aelodau ein gweithlu i lwyddo ac i ffynnu beth bynnag fo’u cefndir, mewn gweithleoedd teg a chynhwysol. Byddwn yn buddsoddi i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ein staff ac yn creu diwylliannau dysgu i’n galluogi i werthuso a herio ein dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.