Mae cystadleuaeth cerdyn Nadolig 2025 bellach ar agor
Amser i fod yn greadigol a chyflwyno eich darnau!
Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein cystadleuaeth cerdyn Nadolig AGC blynyddol bellach ar agor.
Bob blwyddyn, rydym yn gwahodd darparwyr gofal cofrestredig ledled Cymru i helpu i arddangos creadigrwydd y plant a'r oedolion sy'n defnyddio eu gwasanaethau. Caiff dyluniadau Nadoligaidd dethol eu harddangos ar ein cerdyn Nadolig digidol swyddogol ar gyfer 2025, a fydd yn cael ei rannu â thanysgrifwyr i'n cylchlythyr, ei gyhoeddi ar ein gwefan, a'i hyrwyddo ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn croesawu unrhyw waith celf sy'n berthnasol i'r Nadolig, gan gynnwys dyluniadau, paentiadau, gludweithiau, torchau neu grefftau creadigol eraill. Gellir cyflwyno darnau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Sut i gystadlu
Gall darparwyr gofal anfon sgan o gopi neu ffotograff o bob darn o waith i agc.cyfathrebu@llyw.cymru erbyn Dydd Mercher 3 Rhagfyr.
Dylai pob neges gynnwys y canlynol:
- Enw cyntaf yr unigolyn
- Ei oedran
- Enw'r gwasanaeth gofal
Nid oes terfyn i nifer y darnau y gellir eu cyflwyno.
Dyluniadau buddugol
Bydd ein Prif Arolygydd, Gillian Baranski, yn dewis y dyluniadau buddugol yn bersonol. Byddwn yn cysylltu â darparwyr gofal y darnau buddugol yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 8 Rhagfyr.
Preifatrwydd a chaniatadau
Sicrhewch eich bod wedi cael caniatâd gan rieni, gwarchodwyr neu ofalwyr perthnasol cyn cyflwyno unrhyw ddarnau. Gallwch ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd i ddysgu mwy am sut rydym yn trin gwybodaeth bersonol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i agc.cyfathrebu@llyw.cymru
Edrychwn ymlaen at weld y darnau creadigol a lliwgar a gaiff eu rhannu â ni y Nadolig hwn.