Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 13 Tachwedd 2025
  • Newyddion

Adroddiad arolygu ar gyfer Gwasanaethau Oedolion yng Nghyngor Sir Ddinbych wedi'i gyhoeddi

Diben yr arolygiad hwn oedd adolygu perfformiad Gwasanaethau Oedolion Cyngor Sir Ddinbych

Cynhaliwyd yr arolygiad rhwng 8 a 12 Medi 2025.

Canfyddiadau 

Mae Gwasanaethau Oedolion Cyngor Sir Ddinbych yn dangos arweinyddiaeth gref, diwylliant cadarnhaol a chefnogol, ac arferion diogelu cadarn, ac mae'r ymarferwyr yn ymrwymedig i ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a gwelliant parhaus. 

Er bod cryfderau amlwg o ran llesiant y staff, gweithio mewn partneriaeth, a gwasanaethau ataliol, mae heriau parhaus o hyd mewn perthynas â recriwtio, mynediad amserol at ofal, a chysondeb o ran gwasanaethau eirioli a sicrhau ansawdd. Mae'r awdurdod lleol wrthi'n mynd i'r afael â'r meysydd hyn i'w gwella er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i bobl a'u gofalwyr.

Y camau nesaf

Mae AGC yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â nhw. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol. Lle y bo'n berthnasol, dylai'r awdurdod lleol rannu'r ymarfer cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, rhannu'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.