2579 o ddarparwyr gofal plant a chwarae yng Nghymru yn cwblhau eu hunanasesiad
Mae'n bleser gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) gyhoeddi bod 96% o ddarparwyr wedi cyflwyno eu Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth eleni. Mae'r canlyniad gwych hwn yn adlewyrchu ymrwymiad y sector i ansawdd a gwelliant parhaus.
Bydd y wybodaeth a gasglwyd yn helpu i lywio cymorth yn y dyfodol i'r sector ac yn sicrhau bod gweithgareddau rheoleiddiol yn dal i ganolbwyntio ar y meysydd sydd bwysicaf o ran llesiant a datblygiad plant.
Diolch i'r 2579 o ddarparwyr gofal plant a chwarae a roddodd o'u hamser i gwblhau eu datganiad eleni.
Gallwch weld crynodeb o'r data a gasglwyd rhwng 2021 a 2025 yma: