Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 18 Mehefin 2026
  • Newyddion

Arolygiad o Wasanaethau Oedolion Cyngor Sir y Fflint: Cyhoeddi canfyddiadau AGC

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi canfyddiadau ei Harchwiliad Gwelliant o Wasanaethau Oedolion Cyngor Sir y Fflint, a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2026, sy'n adolygu'r cynnydd yn erbyn meysydd a nodwyd yn ystod yr arolygiad blaenorol yn 2023.

Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru Archwiliad Gwelliant o Wasanaethau Oedolion Cyngor Sir y Fflint. Roedd yr arolygiad yn asesu cynnydd yn erbyn pedair egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Pobl, Atal, Llesiant a Phartneriaeth. 

Mae'r cyngor wedi gwneud cynnydd ym mhob maes a nodwyd yn yr arolygiad blaenorol, ond mae angen gwneud gwelliannau pellach cyn y gellir ystyried bod ei ymarfer yn gyson ac yn gynaliadwy.

Beth sy'n gweithio'n dda

Caiff gwasanaethau oedolion eu darparu gan weithlu ymroddedig wedi'u cefnogi gan arweinwyr gweladwy. Dywedodd dros 90% o'r 190 o ymarferwyr a ymatebodd i'r arolwg eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan reolwyr a chydweithwyr, bod sesiynau goruchwylio yn cael eu cynnal yn rheolaidd a'u bod yn gwerthfawrogi'r trefniadau gweithio hyblyg yn fawr. Mae'r cynnig rhagweithiol ar gyfer y Gymraeg ar waith ym mhob rhan o'r gwasanaeth.

Nodwyd bod y Tîm Dilyniant yn enghraifft o ymarfer cadarnhaol, gan ei fod yn helpu pobl i feithrin annibyniaeth a lleihau eu dibyniaeth ar gymorth ffurfiol drwy asesiadau cymesur a chyfleoedd i gymryd risgiau cadarnhaol. Cafodd gwasanaethau ataliol y cyngor, gan gynnwys NEWCIS, gwasanaethau ailalluogi a gwasanaethau teleofal eu canmol hefyd, a nodwyd bod dulliau ailalluogi yn helpu i sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty ac yn gwella mewn modd amserol.

Mae trefniadau diogelu wedi'u sefydlu'n gadarn, gyda chydberthnasau amlasiantaeth cryf ac arweinyddiaeth hygyrch. 

Roedd dros 90% o'r rhanddeiliaid a ymatebodd i'r arolwg yn cytuno bod pobl yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod. 

Nodwyd bod yr asesiadau o dan y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid o ansawdd da, gyda phroses gwneud penderfyniadau clir a chymesur ar waith. 

Nodwyd bod gwaith cydweithredol y cyngor â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar drefniadau talu uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn enghraifft o arloesedd effeithiol.

Meysydd i'w gwella

Nid yw'r cynlluniau gofal a chymorth bob amser yn adlewyrchu dymuniadau pobl ar ffurf canlyniadau clir, wedi'u personoli, ac mae cofnodi yn y person cyntaf yn parhau i fod yn amrywiol. Rhaid i'r cyngor atgyfnerthu'r safonau cofnodi i sicrhau bod cynlluniau yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar ganlyniadau.

Nid yw'r ffordd y caiff rhestrau aros eu goruchwylio yn gyson ar draws timau, a gall pobl sy'n aros i ymarferydd penodedig gael ei neilltuo iddynt wynebu bylchau o ran parhad a goruchwyliaeth. Rhaid i'r cyngor sicrhau bod rhestrau aros yn cael eu monitro'n gyson a bod achosion yn cael eu blaenoriaethu'n briodol.

Mae'r trefniadau ar gyfer ystyried gwasanaeth eirioli ac ar gyfer cofnodi'r broses yn anghyson, ac mae rhai cofnodion yn nodi "nid yw'n ofynnol" heb unrhyw resymeg glir. Rhaid i'r cyngor sicrhau bod gwasanaethau eirioli yn cael eu hystyried, eu cynnig a'u darparu fel mater o drefn lle y bo'n briodol.

Er bod ymatebion i faterion diogelu yn amserol ar y cyfan, nid oedd gweithdrefnau yn cael eu dilyn yn llawn mewn nifer bach o achosion lle roedd patrymau risg yn codi, ac nid oedd ymholiadau Adran 5 o dan Weithdrefnau Diogelu Cymru wedi cael eu cymhwyso'n gyson mewn nifer bach iawn o achosion. 

Mae'r ôl-groniad o asesiadau o dan y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn bwysau sylweddol o hyd, ac nid oes tystiolaeth gyson i ddangos bod Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn cael ei chymhwyso y tu allan i'r trefniadau hyn. 

Mae pwysau ar y gweithlu yn parhau i effeithio ar ansawdd cofnodion, amseroldeb adolygiadau a pharhad cymorth. 

Nid yw'r systemau gwybodaeth bob amser yn cefnogi ymarfer effeithiol, ond mae'r cyngor wrthi'n gweithio i fynd i'r afael â hyn cyn rhoi system rheoli achosion newydd ar waith. 

Ni chaiff asesiadau gofalwyr eu cynnig na'u cofnodi'n gyson, a rhaid i'r cyngor atgyfnerthu'r trefniadau i sicrhau bod hawliau ac anghenion gofalwyr yn cael eu nodi ac yr ymdrinnir â nhw'n briodol.

Y camau nesaf

Mae AGC yn disgwyl i Gyngor Sir y Fflint weithredu ar yr holl feysydd i'w gwella a nodwyd a bydd yn monitro cynnydd drwy weithgarwch adolygu perfformiad parhaus. Gofynnwyd i'r cyngor rannu enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol ag awdurdodau lleol eraill hefyd er mwyn helpu i wneud gwelliannau parhaus ledled Cymru.