Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 17 Medi 2026
  • Newyddion

Cyhoeddi adolygiad thematig cenedlaethol o wasanaethau mabwysiadu

Adolygiad cenedlaethol o wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru yn canfod sylfeini cryf ar draws y system, ac yn nodi lle mae angen gwella cysondeb i sicrhau'r canlyniadau gorau i bob plentyn a theulu.

Heddiw, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi ei hadolygiad thematig cenedlaethol o wasanaethau mabwysiadu, gan ddwyn ynghyd ganfyddiadau o arolygiadau o bob un o'r pum Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol ledled Cymru.

Dyma'r tro cyntaf y mae AGC wedi dwyn canfyddiadau o arolygiadau o'r pum Cydweithredfa ynghyd mewn un darlun cenedlaethol. Mae'r adolygiad yn defnyddio tystiolaeth o gofnodion achosion, arolygon, a sgyrsiau uniongyrchol gyda phlant, rhieni mabwysiadol, teuluoedd geni a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru. 

Canfu'r adolygiad fod gan wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru sylfeini cryf. Mae asesu a pharu o ansawdd cyson uchel, mae'r paneli mabwysiadu yn darparu prosesau gwneud penderfyniadau cadarn sy'n canolbwyntio ar y plentyn, ac mae enghreifftiau cryf o waith taith bywyd sensitif ac ystyriol sy'n helpu'r plant i ddeall eu hanesion eu hunain. Mae'r ymarferwyr yn fedrus ac yn ymrwymedig, gyda ffocws gwirioneddol ar hunaniaeth y plant, eu diwylliant a'r Gymraeg. 

Ar yr un pryd, mae'r adolygiad yn nodi lle y caiff canlyniadau i blant eu cyfyngu gan anghysondeb. Nid yw cymorth mabwysiadu yn amserol, yn hygyrch nac yn deg ledled Cymru. Mae prinder parhaus o fabwysiadwyr cymeradwy, yn enwedig ar gyfer grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant ag anghenion cymhleth, yn oedi sefydlogrwydd i rai plant. Lle mae llywodraethu ac arweinyddiaeth yn gryf, gwelir hyn mewn canlyniadau mwy cyson i blant; lle maent yn wannach, maent yn cyfyngu ar y system gyfan. 

Mae'r adroddiad yn dangos system â sylfeini cryf, sy'n barod i symud o fwriadau da i gyflawni cyson. 

Nid oedd Tîm Canolog y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ac Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol o fewn cwmpas yr adolygiad hwn. 

Mae'r adroddiad hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yn y fformatau canlynol: 

  • fersiwn wedi'i dylunio'n llawn (PDF)
  • fersiwn HTML hygyrch
  • crynodeb hawdd ei ddeall
  • fersiwn sy'n addas i bobl ifanc ar gyfer darllenwyr 11 i 18 oed 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu AGC.