Adolygiad Thematig Cenedlaethol o Wasanaethau Mabwysiadu
Mae'r adolygiad thematig cenedlaethol hwn yn seiliedig ar ganfyddiadau o arolygiadau o bob un o'r pum Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol, ochr yn ochr â gwaith ymgysylltu uniongyrchol â phlant, rhieni mabwysiadol, teuluoedd geni, a gweithwyr proffesiynol.
Dyma'r tro cyntaf y mae AGC wedi dwyn canfyddiadau o arolygiadau o'r pum Cydweithredfa ynghyd mewn un darlun cenedlaethol. Mae'r adolygiad yn defnyddio tystiolaeth o gofnodion achosion, arolygon, a sgyrsiau uniongyrchol gyda phlant, rhieni mabwysiadol, teuluoedd geni a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru.
Caiff gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru eu darparu gan weithlu ymroddedig a medrus, gyda chymorth arweinwyr a phartneriaid sy'n benderfynol o wella bywydau plant na allant fyw'n ddiogel gyda'u teuluoedd geni mwyach.
Mae'r adroddiad yn dangos darlun genedlaethol o system sy'n barod i symud o fwriadau da i gyflawni cyson, ac mae'r dystiolaeth o'r ffordd mae hynny'n edrych eisoes yn bodoli yng Nghymru.
Mae'r adroddiad llaw ar gael isod yn y fformatau canlynol:
- fersiwn wedi'i dylunio'n llawn (PDF)
- fersiwn HTML hygyrch
- crynodeb hawdd ei ddeall
- fersiwn sy'n addas i bobl ifanc ar gyfer darllenwyr 11 i 18 oed
Dogfennau
-
Adolygiad Thematig Cenedlaethol o Wasanaethau Mabwysiadu - PDF , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 16 MBPDF, Maint y ffeil:16 MB