Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 30 Hydref 2026
  • Newyddion

Gwrando, dysgu a gweithredu: Ein cynnydd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn rhannu'r cynnydd y maent yn ei wneud i ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eu gwaith, a'u blaenoriaethau ar gyfer creu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol tecach a mwy hygyrch yng Nghymru.

Dylai pawb allu cael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n diwallu eu hanghenion ac yn eu trin yn deg, gydag urddas a pharch. 

Yn 2024, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) eu Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y Cyd ar gyfer 2024-2028. Mae'r strategaeth yn nodi ein hymrwymiad ar y cyd i ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob rhan o'n gwaith fel arolygiaethau a rheoleiddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol Cymru. 

Ers cyhoeddi'r strategaeth, mae AGIC ac AGC wedi gwneud cynnydd o ran cryfhau'r ffordd y caiff cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant eu hadlewyrchu yn y ffordd y mae'r ddau sefydliad yn arolygu, yn rheoleiddio ac yn ymgysylltu â phobl a chymunedau ledled Cymru. Er bod ein rolau'n amrywio ar draws gofal iechyd a gofal cymdeithasol, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflawni'r uchelgeisiau a rennir a nodir yn y strategaeth a sicrhau bod profiadau, hawliau a lleisiau pobl wrth wraidd ein gwaith. 

Cryfhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith

Rydym wedi cryfhau'r ffordd y caiff cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant eu hystyried yn ein gweithgarwch arolygu, sicrwydd a rheoleiddio. Caiff ystyriaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant eu hymgorffori'n fwyfwy yn ein methodolegau, ein canllawiau, ein prosesau casglu tystiolaeth a'n trefniadau adrodd ar draws gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn ein helpu i ddeall profiadau pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau yn well a nodi lle gall rhwystrau, anghydraddoldebau neu wahaniaethau mewn canlyniadau fodoli. 

Rydym hefyd wedi cynyddu ein ffocws ar adrodd ar ganfyddiadau sy'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a hawliau dynol a'u rhannu. Mae hyn yn helpu i dynnu sylw at arferion da, nodi meysydd i'w gwella a helpu gwasanaethau i ddarparu gofal a chymorth mwy teg. 

Defnyddio gwybodaeth well i wella ein dealltwriaeth

Mae'r ddau sefydliad wedi parhau i wella'r ffordd rydym yn casglu, yn dadansoddi ac yn defnyddio gwybodaeth am brofiadau a nodweddion gwarchodedig pobl.

Drwy arolygon, gweithgareddau ymgysylltu, tystiolaeth arolygu ac adborth gan y cyhoedd, rydym yn cryfhau ein dealltwriaeth o brofiad grwpiau gwahanol o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn ein galluogi i nodi materion sy'n dod i'r amlwg, deall ble y gall anghydraddoldebau fodoli a sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan dystiolaeth yn ogystal â phrofiad bywyd. 

Bydd gwella ansawdd gwybodaeth am gydraddoldeb a gwella'r ffordd y caiff ei defnyddio yn parhau i fod yn faes ffocws pwysig wrth i ni barhau i ddatblygu ein dulliau gweithredu.

Gwrando ar ystod ehangach o leisiau

Mae ymgysylltu â phobl, cymunedau a sefydliadau yn hanfodol er mwyn i ni ddeall profiadau'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Rydym wedi parhau i gryfhau ein trefniadau i ymgysylltu â grwpiau cymunedol, sefydliadau cynrychioliadol, rhanddeiliaid a phobl sydd â phrofiad bywyd. Gwnaeth dros 2,300 o gleifion, gofalwyr, staff a rhanddeiliaid helpu i lunio Strategaeth newydd AGIC ar gyfer 2026–2030. Yn ystod 2025/26, derbyniodd AGC 7,019 o arolygon adborth wedi'u cwblhau am wasanaethau cofrestredig a 2,424 o ymatebion i'n harolygon am wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.

Drwy grwpiau cynghori, rhwydweithiau rhanddeiliaid, digwyddiadau ymgysylltu a gweithgareddau allgymorth wedi'u targedu, rydym yn sicrhau bod ystod ehangach o safbwyntiau yn helpu i lywio ein gwaith a'n blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

Mae'r gwaith ymgysylltu hwn wedi gwella ein dealltwriaeth o faterion sy'n effeithio ar gymunedau gwahanol, gan gynnwys rhwystrau i fynediad, anghenion cyfathrebu a phrofiadau grwpiau nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed bob amser. Mae'n ein helpu sicrhau bod ein harolygiadau, ein hadolygiadau a'n gweithgarwch gwella yn seiliedig ar brofiadau'r bobl bwysicaf. 

Gwella hygyrchedd

Mae gwella hygyrchedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r ddau sefydliad.

Rydym wedi parhau i gryfhau ein hymrwymiad i gyfathrebu dwyieithog, iaith glir, hygyrchedd digidol a fformatau hygyrch. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau i'n gwefannau, ein cyhoeddiadau, ein hadnoddau ar-lein a'n cyfathrebiadau, gan helpu i sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl. 

Rydym hefyd wedi ehangu'r ystod o ffyrdd rydym yn cyfathrebu, gan gynnwys defnyddio deunyddiau Hawdd eu Deall, cynnwys digidol, fideos a'r cyfryngau cymdeithasol, sy'n ein helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach a mwy amrywiol ledled Cymru. 

Creu gweithleoedd cynhwysol

Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleoedd dysgu a datblygu i gryfhau dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a hawliau dynol ar draws ein sefydliadau.

Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant, gweithgareddau codi ymwybyddiaeth, cyfleoedd i ddysgu gan bobl sydd â phrofiad bywyd a mentrau sy'n annog trafodaeth a dysgu ymhlith y staff. Mae ein rhwydweithiau Hyrwyddwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewnol hefyd yn parhau i gefnogi ymwybyddiaeth, dysgu a thrafodaeth ar draws ein sefydliadau. Rydym hefyd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i wella ein dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb sy'n dod i'r amlwg a sicrhau bod ein gwybodaeth a'n dulliau'n parhau i ddatblygu. 

Mae creu gweithleoedd cynhwysol yn ein helpu i adlewyrchu a deall yn well y cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu ac yn cryfhau ein gallu i reoleiddio ac arolygu'n effeithiol. 

Edrych tuag at y dyfodol

Er ein bod wedi gwneud cynnydd da, rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud.

Yn ystod cam nesaf y strategaeth, byddwn yn parhau i gryfhau'r ffordd y caiff cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a hawliau dynol eu hymgorffori yn ein holl waith. Bydd hyn yn cynnwys gwella'r ffordd rydym yn defnyddio data a thystiolaeth mewn perthynas â chydraddoldeb, cynyddu'r cyfleoedd i bobl sydd â phrofiad bywydol ddylanwadu ar ein gwaith, a pharhau i wella hygyrchedd, trefniadau ymgysylltu a chynhwysiant ar draws y ddau sefydliad.

Drwy barhau i wrando, dysgu a gweithredu, ein nod yw deall profiadau pobl yn well, nodi anghydraddoldebau lle maent yn bodoli a chefnogi gwelliannau o ran ansawdd, diogelwch a chynwysoldeb gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.