Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 30 Awst 2022
  • Newyddion

Mae adroddiad gwerthuso Gwasanaethau Oedolion a Phlant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi'i gyhoeddi

Cynhaliwyd yr arolygiad ym mis Mehefin 2022.

Pwrpas yr arolygiad oedd adolygu gwasanaethau oedolion a phlant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Fe wnaethom hefyd ystyried os oedd y meysydd ar gyfer gwelliant gafodd eu hamlygu yn ystod ein harolygiad diwethaf o wasanaethau plant ym mis Tachwedd 2021 wedi cael sylw.

Yng ngwasanaethau plant, gwelsom fod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud ers mis Tachwedd 2021, gan arwain at ddatblygiadau i arferion a chanlyniadau gwell i blant. Mae’r awdurdod lleol wedi parhau i roi cynllun gweithredu ei Fwrdd Gwelliannau Cyflym ar waith, a ddatblygwyd i ysgogi’r newid sydd ei angen i wella cysondeb ac ansawdd gwasanaethau plant.

Yng ngwasanaethau oedolion, mae meysydd a nodwyd fel cryfderau yn ein harolygiad blaenorol yn 2021 yn parhau i gael eu gwreiddio’n ymarferol. Mae angen gwaith pellach ar wasanaethau oedolion i sicrhau bod datblygiadau strategol a gweithredol yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl yn gallu derbyn y gwasanaeth cywir ar yr amser cywir ac yn y lle iawn. Rydym yn cydnabod bod rhai o'r heriau hyn yn cael eu profi ledled Cymru.

Mae’r adroddiad llawn i’w weld isod:

Adroddiad arolygiad gwerthuso perfformiad: Gwasanaethau Oedolion a Phlant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam