Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 31 Ionawr 2024
  • Newyddion

Yn galw ar bob darparwr gofal plant a chwarae – mae'r ffenestr ar gyfer cwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) bellach wedi agor

Rydym wedi ysgrifennu at bob darparwr gofal plant a chwarae am ei Ddatganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) 2024.

Beth yw Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth?

Ffurflen ar-lein yw'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth y mae'n ofynnol i Bersonau Cofrestredig ac Unigolion Cyfrifol ei chwblhau. Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae.

Beth rydym yn ei wneud â'r data?

Mae'r wybodaeth y mae darparwyr yn ei rhoi i ni wrth gyflwyno eu Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn ein helpu i gynllunio ein harolygiadau ac i roi'r help a'r cymorth cywir i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Bydd y data o bob cwr o Gymru yn cael eu casglu a'u cadw'n ddienw ac yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach yn 2024. Gallwch weld data'r llynedd yma.

Gwybodaeth bwysig i bob darparwr gofal plant a chwarae:

Os ydych yn rhedeg gwasanaeth gofal plant a chwarae a wnaeth gofrestru â ni cyn 31 Rhagfyr 2023, mae'n ofynnol i chi gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth gan ddefnyddio AGC Ar-lein erbyn 15 Mawrth 2024.

Os na fyddwch yn cwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth erbyn y dyddiad hwn, bydd yn effeithio ar eich graddau yn y dyfodol.

Bydd angen cyfrif AGC Ar-lein arnoch i gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth.

Os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein, bydd angen i chi weithredu ar unwaith:

  • ewch i AGC Ar-lein
  • neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126 a dewiswch opsiwn 4

Help i gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth

Mae cwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn broses gyflym a hawdd drwy eich cyfrif AGC Ar-lein. Os bydd angen rhywfaint o help a chymorth arnoch, rydym wedi llunio rhai adnoddau defnyddiol, gan gynnwys fideos ‘sut i’ a chanllawiau, sydd ar gael ar ein gwefan.